Hafan
Gwybodaeth
Bywyd Ysgol
Y Diwrnod Ysgol

Campws yr Ysgol

Gwisg Ysgol

Polisïau’r Ysgol

Clybiau Allgyrsiol

Cwricwlwm
Desg Newyddion
Ffreutur yr Ysgol
Y Gymuned
Swyddi Gwag
Cysylltwch â Ni
2006 Dyffryn Taf School

Bywyd Ysgol : Gwisg Ysgol

Mae gwisg ysgol yn orfodol ac yn cyfrannu tuag at ymddangosiad twt a thaclus.  Mae hyn yn creu ymdeimlad o falchder a pherthyn ac yn hybu ymddygiad synhwyrol.  Ni chaniateir siacedi na jîns denim dan unrhyw amgylchiadau. Rhaid gwisgo esgidiau cryfion i ddod i’r ysgol ac i fynd adref ac yn ystod y dydd. Ni ddylid gwisgo ‘trainers’ ag eithrio yn y gwersi Ymarfer Corff. Ni chaniateir unrhyw  emwaith. Gellir gwisgo un pâr o stydiau pan fo gan ddisgyblion dyllau yn eu clustiau. Ni chaniateir unrhyw golur, na thyllu rhannau o’r corff.

                  Bechgyn                                                 Merched
Crys glas golau (Nid Denim)                    Blowsen las golau(Nid Denim) 
Crysau gwyn i’r Chweched Dosbarth     Crysau gwyn i’r Chweched Dosbarth   

Trowsus llwyd tywyll                                   Sgert lwyd tywyll, syth, smart 
Du i’r Chweched Dosbarth                       Du i’r Chweched Dosbarth
                                                                       Sgertiau o hyd rhesymol

Siwmper

Siwmper gwddf V nefi & bathodyn yr Ysgol 
Siwmper denau ddu gwddf V i’r Chweched Dosbarth   

• Disgwylir i bob disgybl wisgo cot lwyd, nefi neu lwyd a nefi (plaen heb unrhyw fotiff). Rhaid i esgidiau fod yn ddu. Ni ddylai’r sodlau fod yn uwch na 5 cm.

• Ni chaniateir crysau chwys a thopiau gyda hwd.

• Disgwylir i bob disgybl wisgo tei yr ysgol a gofalu amdano. Dylid ei wisgo yn y modd cywir. 

• Mae siwmper ysgol (gyda bathodyn) yn orfodol.

• Yn ystod tymor yr haf gellir gwisgo crysau polo nefi gyda bathodyn yr ysgol arnynt.

• Dylid rhoi enw’r perchennog yn glir ar bob dilledyn.

• Ni chaniateir steiliau gwallt na lliwiau gwallt ecsentrig. Ni chaniateir i fechgyn dyfu barf na mwstas. Dylai gwallt hir gael ei glymu yn ôl ar gyfer gwersi ymarferol

Mae’r uchod ar gael gan:
Trutex Mail Order,  Claire Adams Schoolwear - Caerfyrddin/Sanclêr
Evans and Wilkins, Caerfyrddin     

Terms & Privacy policy under which this service is provided.