Hafan
Gwybodaeth
Bywyd Ysgol
Y Diwrnod Ysgol

Campws yr Ysgol

Gwisg Ysgol

Polisïau’r Ysgol

Clybiau Allgyrsiol

Cwricwlwm
Desg Newyddion
Ffreutur yr Ysgol
Y Gymuned
Swyddi Gwag
Cysylltwch â Ni
2006 Dyffryn Taf School

Bywyd Ysgol : Polisïau’r Ysgol

 Polisi Amddiffyn Plant

Mae Dyffryn Taf yn llwyr gydnabod ei chyfraniad tuag at amddiffyn plant.
Mae tair prif elfen i bolisi'r ysgol :

1.       Cynigir cynhaliaeth Addysgiadol a Bugeiliol i'r disgyblion i'w galluogi i'w diogelu eu hunain ac atal camdrin.

2.       Mae trefniant ar gael er mwyn adnabod a hysbysu unrhyw achos o gamdrin, neu achos lle bo amheuaeth o gamdrin. Oherwydd ein cyswllt dyddiol â phlant, mae staff yr ysgol mewn lle da i sylwi ar arwyddion allanol camdrin.

3.       Cynnal disgyblion a all fod wedi cael eu camdrin.

Mae ein polisi yn berthnasol i holl staff yr ysgol a gall unrhyw un ohonynt fod yn fan cyntaf datguddio i blentyn. Gall rhieni pryderus gysylltu â'r ysgol i drafod materion amddiffyn.

Iechyd a Diogelwch

Cynhelir arolygon rheolaidd o'r ysgol gan y Prifathro a Llywodraethwr sy'n arbenigwr Iechyd a Diogelwch. Nodir unrhyw beryglon posibl a gweithredir yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd diogel i'r plant weithio a chwarae ynddo.

O leiaf unwaith y tymor cynhelir dril tân pan fydd y plant yn ymarfer gadael yr adeilad yn gyflym.

Cwynion

Os bydd gan unrhyw un bryderon ynglŷn ag addysg eu plant yn yr ysgol, dylent gysylltu â'r ysgol ar unwaith. Bydd un o dîm rheoli'r staff bob amser yn trefnu i gwrdd â'r rhieni er mwyn datrys anawsterau.

Os na ellir datrys y mater yna dylid cysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr. Os pery'r mater heb ei ddatrys mae gennych yr hawl i hysbysu'r Cyfarwyddwr Addysg.

Polisi Codi Tâl

Ni chodir tâl am ddarparu'r cwricwlwm sylfaenol. Serch hynny, gellir gofyn am daliadau gwirfoddol am: ymweliadau nad ydynt yn rhan o'r cwricwlwm; pris unrhyw wrthrychau a wneir yn yr ysgol ond y bydd y disgyblion yn mynd â hwy adref i'w defnyddio neu i'w bwyta; rhai gweithgareddau all-gyrsiol.

Yn y pen draw, y gefnogaeth a geir drwy gyfraniadau rhieni fydd yn penderfynu a yw gweithgaredd yn ymarferol bosibl.

Addysg Rhyw

Mae pob disgybl yn derbyn addysg am faterion yn ymwneud â rhyw. Mae meysydd llafur Gwyddoniaeth a Bioleg yn ymdrin â gwybodaeth yn ymwneud ag atgenhedlu rhywiol, ac mae'r Rhaglen Addysg Bersonol a Chymdeithasol a’r rhaglen Addysg Grefyddol yn ymdrin ag agweddau cymdeithasol a moesol cydberthnasau dynol. Bydd staff Awdurdod Iechyd Sir Gaerfyrddin ac asiantaethau allanol eraill yn cynorthwyo gyda'r rhaglen addysg rhyw.

Polisi Presenoldeb

Ystyrir bod presenoldeb rheolaidd yn bwysig iawn yn Nyffryn Taf. Hebddo, ofer bydd ein holl ymdrechion i ddarparu addysg o safon uchel; os nad yw plentyn yn bresennol yn yr ysgol ni all ddysgu na chyrraedd ei wir botensial. Am y rhesymau hynny, rydym yn annog rhieni i beidio â threfnu gwyliau yn ystod tymor yr ysgol. Ein nod yw cael y graddau presenoldeb uchaf posibl ar gyfer ein disgyblion.

 Bydd rhesymau cyfiawn a dilys ar adegau, wrth gwrs, pam na all plant fynychu'r ysgol , ond mae gennym systemau yn eu lle i fonitro ac ymchwilio i absenoldebau ar draws yr ysgol. Mae'r polisi hwn yn amlinellu ein hymarfer a'n trefniadau er mwyn cynnal lefel uchel o bresenoldeb:

Disgwyliwn y canlynol gan ein disgyblion:

  • Y byddant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.
  • Y byddant yn cyrraedd ar amser ac wedi paratoi'n briodol ar gyfer y dydd.
  • Y byddant yn hysbysu aelod o staff o unrhyw broblem a all eu rhwystro rhag mynychu'r ysgol.

Disgwyliwn i rieni:

  • Annog eu plant i fynychu'r ysgol yn rheolaidd.
  • Sicrhau eu bod yn cysylltu â'r ysgol pan fo'u plentyn yn/wedi methu mynychu'r ysgol.
  • Sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser ac wedi paratoi'n briodol ar gyfer y dydd.
  • Monitro gwaith cartref yn y cynllunydd personol a gwirio bod y gwaith cartref wedi'i wneud a'i gyflwyno mewn pryd.
  • Cysylltu â'r ysgol pan gyfyd unrhyw broblem a allai gadw eu plentyn o'r ysgol.

Polisi Cyfle Cyfartal

Mae'r ysgol yn benderfynol o gynnig cyfle cyfartal i bawb, beth bynnag fo'u rhyw, cenedligrwydd, lliw, gallu neu anabledd

Yn ein hymdrech i fod yn fwy cynhwysol rydym wedi gosod lifft er mwyn gwneud ein cynlluniau mynediad yn gyflawn

Cytundeb Cartref-Ysgol

Mae'r ysgol am i rieni fod yn ymwybodol o'n Cytundeb Cartref Ysgol sy'n diffinio cyfrifoldebau y naill a'r
llall.

Dyma gyfle i rieni chwarae rhan weithredol yn addysg eu plant.

Mae holl bolisïau eraill Ysgol Dyffryn Taf ar gael o’r ysgol ar gais

Terms & Privacy policy under which this service is provided.