Ffreutur
yr Ysgol
Mae ffreutur yr ysgol yn cael ei rhedeg gan Chartwells (rhan o'r "Compass Group UK"). Amser cinio bydd pob disgybl yn bwyta yn ein ffreutur lle gallant brynu pryd o fwyd twym neu oer. Bydd y gost, gan gynnwys pwdin, tua £3.00. Gall disgyblion hefyd ddod â brechdanau o gartref.
Mae’r ffreutur hefyd ar agor yn ystod yr egwyl cyntaf pan fydd tost ac eitemau eraill ar werth. Mae peiriannau gwerthu hefyd ar gael at ddefnydd y disgyblion ar adegau priodol.
Yr Hawl i gael Cinio Ysgol am Ddim
Os oes gan eich plentyn yr hawl i gael tocyn cinio ysgol am ddim, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr ysgol yn derbyn y dogfennau perthnasol fel bo tocyn yn gallu cael ei roi iddo. I wneud cais am Ginio Ysgol am Ddim cysylltwch â:
Adran Cinio Ysgol am Ddim, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, Adran Rheoli Cyfleusterau, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ. Ffôn 01267 228135 / 01267 228125
DS. Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n derbyn: a) Cymhorthdal Incwm, b) Lwfans Ceisio Gwaith – yn Seiliedig ar Incwm, c) Credyd Treth Plant, ond NID Credyd Treth Gwaith, sy’n gallu derbyn Cinio Ysgol am Ddim.
|