Desg
Newyddion
Croeso i Ddesg Newyddion Dyffryn Taf.
Mae’r ysgol yn gwneud pob ymdrech i hysbysebu’r ystod o weithgareddau, digwyddiadau a phrosiectau sy’n digwydd yn Nyffryn Taf. Rydym yn eithriadol o falch o’n disgyblion a’r hyn y maent yn ei gyflawni ym mhob maes. Mae’r staff a’r disgyblion yn gweithio’n galed iawn a theimlwn ei bod yn bwysig bod eu hymdrechion yn cael eu cofnodi a’u hysbysebu o fewn campws yr ysgol yn ogystal â thu allan iddo.
Anfonir Newyddion yr Ysgol i’r papurau lleol yn rheolaidd fel y gallwn roi gwybod i’r gymuned ehangach ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn Ysgol Dyffryn Taf.
Bellach gallwch weld eitemau o newyddion yr ysgol yma ar y wefan hefyd, yn y fan hon ar y Ddesg Newyddion.
|