Gwybodaeth : Derbyniadau
Dyffryn Taf yn cydweithio’n agos â’r nifer fawr o Ysgolion Cynradd sy’n ei bwydo er mwyn gwneud y broses o drosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 mor hawdd ag sy’n bosibl. Bydd rhieni yn derbyn yr holl waith papur perthnasol trwy law’r Ysgol Gynradd ymhell ymlaen llaw.
Bydd rhaid i rieni disgyblion sy’n symud i mewn i ‘r dalgylch ac sy’n dymuno mynychu’r ysgol gysylltu â’r ysgol i drefnu apwyntiad gyda’r Pennaeth Blwyddyn perthnasol. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â derbynfa’r ysgol ar 01994 242100.
Cludiant Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am drefnu cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gymwys, a gwneir y ddarpariaeth hon yn unol â pholisi’r Cyngor sydd wedi hen ennill ei blwyf yn yr ardal hon. Gellir cael copïau o’r polisi hwn o’r ysgol. Os yw rhieni yn ansicr a fydd eu plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim ai peidio, gellir ceisio cadarnhâd ysgrifenedig gan yr Adran Trafnidiaeth a Pheirianneg, Adran Gwasanaethau Technegol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre-Ioan, Caerfyrddin SA31 3LZ.
|