Gwybodaeth : Y Chweched Dosbarth
Pam dewis aros yn yr ysgol a mynd i’r 6ed Dosbarth?
• Yn Nyffryn Taf rydym yn ymfalchïo yn y gynhaliaeth a roddwn i’n disgyblion. Mae 90% o’n disgyblion lefel A yn cwblhau eu cyrsiau; mae bron bob un o’r rhain yn mynd ymlaen i’r Brifysgol. Cymharwch hyn â sefydliadau eraill!
• Gofal bugeiliol a chwblhau cyrsiau , cwricwlwm academaidd a dewis eang, rhaglen allgyrsiol gyfoethog. Cyfleoedd i wella sgiliau a dinasyddiaeth.
• Mae ein 24 lefel A, Gwobr Dug Caeredin, Menter yr Ifanc a chwrs cyfrifiadurol ECDL yn creu cwricwlwm rhagorol sy’n cynnwys amrywiaeth cyfoethog.
• Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol a chymunedol, a disgwylir iddynt wneud hynny Mae pob un o’n myfyrwyr Chweched Dosbarth yn defnyddio’r cyfleoedd hyn i gyfoethogi eu profiadau ôl-16 ac i symud ymlaen fel dinasyddion y dyfodol.
Mae Llyfryn Opsiynau'r Chweched Dosbarth ar gael isod i’w lawrlwytho.
Cliciwch yma i'w weld
|