Gwybodaeth
Ysgol Gyfun gymysg 11-18 yw Dyffryn Taf , wedi'i lleoli tua hanner ffordd rhwng Hwlffordd a Chaerfyrddin, ac wedi'i chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Agorwyd yr ysgol fel Ysgol Gyfun ym 1989, gyda llawer o adeiladau newydd, ac mae llawer o adnewyddu wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Adeiladwyd bloc Mathemateg, Labordy Gwyddoniaeth a Neuadd Chwaraeon newydd yn ddiweddar hefyd, ac ar y cyfan mae cyfleusterau ardderchog yn yr ysgol ar gyfer addysg ei disgyblion. Mae gan yr ysgol bolisi mynediad agored, yr unig gyfyngiad yw natur a maint yr adnoddau sydd ar gael.
Er mai Saesneg yw iaith gyntaf y mwyafrif o'r disgyblion, mae yma nifer sydd yn Gymry Cymraeg; cynigir Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol, Drama ac A.B.Ch. i'r digyblion hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae cyfres o ystafelloedd ar gyfer pob pwnc, ac mae'r offer cyfrifiadurol diweddaraf ar gael yno, fel bo'r disgyblion yn gallu elwa ar yr hyn sydd gan dechnoleg fodern i'w gynnig iddynt.
Nod yr ysgol yw ymestyn pob disgybl i'w lawn botensial, yn ddeallusol, yn academaidd, yn ysbrydol, yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Dyma'r ystyriaeth ganolog a'r cymhelliad sydd wrth wraidd pob un o bolisïau'r ysgol. Ymfalchïwn yn y modd y ceisiwn greu awyrgylch ac ethos gofalgar, ble bydd pob disgybl yn cael ei barchu. Byddwn yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod pob disgybl yn gwneud dewisiadau addas ym Mlwyddyn 10 a 12. Bydd disgyblion Blwyddyn 11 a'r Chweched Dosbarth yn derbyn arweiniad gofalus wrth ddewis addysg bellach neu yrfa. Yn Nhymor yr Hydref bydd yr ysgol yn cynnal Noson Agored pan wahoddir rhieni a disgyblion i weld gwaith yr adrannau.
Mae llyfryn ysgol cyflawn ar gael i’w lawrlwytho isod
Cliciwch yma i’w weld
|