Welcome
Croeso i Ysgol Dyffryn Taf
Neges gan y Prifathro
Mae lle pwysig i Ysgol Dyffryn Taf o fewn y Gymuned. Mae'r ysgol wedi etifeddu traddodiadau academaidd yr ardal. Rydyn ni'n falch iawn o'r traddodiadau hyn a cheisiwn gynnal gwerthoedd cadarn megis parch at ein gilydd, smartrwydd a hunan-ddisgyblaeth. Bydd y Staff a'r Llywodraethwyr bob amser yn ymdrechu i gynnal a datblygu'r ddarpariaeth orau oll o ran dysgu ac addysgu.
Gellir crynhoi amcanion yr ysgol mewn un ymadrodd "Cyrraedd eich potensial". Ceisiwn gynnal ethos sy'n magu a meithrin uchelgais ac sy'n gwneud defnydd o ddoniau pob unigolyn. Mae disgwyliadau uchel gan y Staff a byddant yn ceisio gosod safonau sy'n cyd-fynd â photensial. Ein nod terfynol, ym mhob maes, yw cyflawni cymaint ag sy'n bosibl. Derbyniwn bod pob myfyriwr yn unigolyn, gyda'i anghenion a'i ddoniau ei hun, a'n nod yw darparu'r gefnogaeth, yr anogaeth a'r cyfle y mae pob unigolyn yn ei haeddu er mwyn cyrraedd y potensial a'r cynnydd personol mwyaf posibl.
Mae'r ysgol yn benderfynol o fynd ymlaen â datblygiadau a fydd yn ateb anghenion pobl ifanc mewn byd sy'n prysur newid ac sy'n nodweddiadol o'r Unfed Ganrif ar Hugain.
Rydyn ni'n eithriadol o uchelgeisiol ar ran pob un sy'n dod i'r ysgol. Gyda'r Staff, Myfyrwyr, Rhieni, Llywodraethwyr a'r Gymuned ehangach yn cyd-weithio, rydyn ni'n gwybod y gallwn ni gyrraedd y nod.
Mae croeso i ddarpar-ddisgyblion a rhieni drefnu apwyntiad er mwyn cael cyfle i weld yr Ysgol.
MR D R NEWSOME OBE Prifathro
|