Cwricwlwm
Ein nod yw darparu cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a heriol, gyda chyfleoedd i bob un brofi llwyddiant.
· Yng Nghyfnod Allweddol 3, mae pob disgybl yn dilyn cwricwlwm eang yn ôl gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn y pynciau craidd a'r pynciau sylfaenol fel ei gilydd.
· Yng Nghyfnod Allweddol 4, bydd pob disgybl yn dilyn y cwricwlwm craidd, sef Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chymraeg. Wedi ymgynghori â'r disgyblion a'u rhieni ym Mlwyddyn Naw, byddant yn ychwanegu pedwar pwnc arall, allan o ystod eang, a fydd yn addas ar gyfer eu dyheadau a'u diddordebau.
· Yn y Chweched Dosbarth mae amrywiaeth eang o gyrsiau UG, A2 a Galwedigaethol ar gael, a bydd y disgyblion yn derbyn cymorth wrth lunio'u ceisiadau am addysg uwch a cheisiadau eraill ôl-18.
· Bydd pob unigolyn sydd ag anghenion arbennig yn cael ei fonitro a sicrheir bod darpariaeth addas ar gael drwy gyfrwng cynlluniau addysg unigol.
· Mae amrywiaeth eang o strategaethau addysgu yn gymorth i ddisgyblion ddatblygu'n ddysgwyr myfyrgar ac annibynnol.
DATBLYGIADAU CWRICWLAIDD
Mae Cwricwlwm Dyffryn Taf i gael ei drosglwyddo i’n Rhith-amgylchedd Dysgu, Moodle Dyffryn Taf.
Mae’r safle hwn yn caniatáu i’n hathrawon ddarparu fersiwn electronig o bob cwrs a fydd yn cynnwys amcanion y cwrs, strwythur pob gwers a phob tasg y mae’n bosibl ei gosod yn electronig. Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at eu cyrsiau, amlinelliad o’r gwersi a’r tasgau o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd, a hynny unrhyw bryd y mynnont. Byddant hefyd yn gallu anfon eu tasgau gorffenedig at eu hathrawon trwy gyfrwng ein Moodle ynghyd â defnyddio’r cyfleusterau eraill sydd ar gael ar Moodle.
Disgwylir y bydd Moodle Dyffryn Taf ar-lein erbyn canol mis Medi 2007; bydd Dosbarth Chwech yn defnyddio cyrsiau lefel A Hanes, Seicoleg a Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd cyrsiau eraill yn cael eu hychwanegu’n raddol a’n gobaith yw y bydd amlinelliad o bob cwrs o leiaf mewn lle erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon. Ceir mynediad i Moodle trwy ddefnyddio cyfrinair a roddir i bob disgybl. Bydd myfyrwyr yn gallu gweld bob cwrs, ond dim ond yn y cyrsiau hynny y cofrestrwyd hwy ar eu cyfer gan yr Ysgol y byddant yn gallu cymryd rhan..
Os hoffech weld y ddarpariaeth ar-lein hon defnyddiwch gyfrinair eich mab/merch trwy gyfrwng y cyswllt isod.
http://elearning.sirgar.com/dyffryntaf/
|